cytun cytun-c English/Saesneg
 
Dolenni:

« yn ôl i'r dudalen flaenorol

 

 
Y Daith Hyd Yma - Gethin Abraham-Williams

Cyflwyniad i gyfarfod o Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru gydag Arweinwyr Eglwysig yn y Ganolfan, y Fenni, ar 09 Rhagfyr 2009

Y Daith Hyd Yma

Oer, oer fu’r antur, meddai Doethion T S Eliot.

Ar union adeg waetha’r flwyddyn

I deithio, a theithio mor bell.

Dichon y byddai Doethion y Cyfamod Cymreig, pedwar ohonynt yn wreiddiol gydag un arall yn ymuno'n fuan wedyn, yn cytuno.

Amser maith yn ôl y bu hynny, yng nghof un o'r Doethion yn ei henaint.

Ac amser maith yn ôl fu hi yn hanes teithwyr y Cyfamod hefyd. Mor bell yn ôl yn wir fel nad yw, i lawer yn ein heglwysi ac i'r genhedlaeth newydd o arweinwyr eglwysig, ond megis atgof pell, hen boster yn melynu ar hysbysfwrdd ambell eglwys. Deng mlynedd ar hugain; ac ymron i ddwy genhedlaeth wedi mynd heibio.

Ond fe ddechreuodd y daith ymhellach yn ôl hyd yn oed na hynny - bymtheng mlynedd ynghynt yng Nghynhadledd Ffydd a Threfn Nottingham ym 1964. Ffurfiodd chwech o draddodiadau yng Nghymru (roedd yr Annibynwyr yn rhan o’r fenter yn wreiddiol) Gydbwyllgor Cyfamodi mewn ymateb i’r penderfyniad yn Nottingham oedd yn galw ar yr eglwysi i gyfamodi fel llwybr tuag at ddarganfod cyflawnder eglwys a gymodwyd.

Cam bach, rhaid dweud, o’i gymharu â’r rhwyg enfawr rhwng y dwyrain a’r gorllewin yn yr unfed ganrif ar ddeg, sydd eto heb ei ddatrys, neu effeithiau Diwygiad y gorllewin yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Eto, nid oedd yn gam i’w ddiystyru. Menter fechan fach mewn cornel o ogledd orllewin Ewrop gan rai o’r fam eglwysi a welodd eu plant Asiaidd yn uno yn India, yn y De ym 1947, gydag undod eto i ddod yn y Gogledd ym 1970.

Amser maith yn ôl y bu hynny.

Gallai fod yn syndod i rai, felly, bod y ddau argraffiad o gyfrol swmpus Cyngor Eglwysi’r Byd, y Dictionary of the Ecumenical Movement (1991 a 2002), yn neilltuo pum modfedd a hanner o ofod colofn i’r Cyfamod Cymreig. A phan fo cynrychiolwyr o eglwysi Cymru’n mynychu cyfarfodydd ecwmenaidd rhyngwladol mae esgobion o eglwys Mar Thoma yn India neu sylwedyddion o’r Fatican yn parhau’n eu dal i’w holi ynghylch y newyddion diweddaraf yma.

‘Mae cyfamodi’n ffurf ar undod gweladwy sy’n ceisio ymateb i’r amrywiaeth o draddodiadau a welir o fewn yr undod a rydd Crist ac a ewyllysir ganddo ar gyfer yr eglwys. Fel mynegiant wedi’i addasu o undod organig, mae’n galw ar yr eglwysi i uno mewn “pethau cysegredig” (communio in sacris) ­- ffydd, bedydd, yr ewcharist, y weinidogaeth a chenhadu - heb sefydlu undod cyfundrefnol.’ [Dictionary of the Ecumenical Movement, CEB - wedi’i gyfieithu]

Lluniwyd y diffiniad hwnnw gan Paul A Crow, a ddaw o draddodiad Disgyblion Crist, ac a fu gynt yn Athro Cynorthwyol Hanes yr Eglwys yn Lexington, Kentucky. Ef yw un o’r prif arbenigwyr ar gyfamodi.

‘Mewn cyfamodi, fe geidw pob eglwys, am y tro a chyhyd ag y penderfyna pob eglwys felly, ei strwythurau eglwysig, ei thraddodiadau, ei ffurfiau addoli a’i threfniadau gweinidogaethol.’

Fodd bynnag, gall y cymal bach yna ‘am y tro’ mor hawdd lithro i olygu ‘am gyhyd ag y gall unrhyw un ragweld’. Gall dyfu’n ddyweddïad nad yw byth yn arwain at briodas, gyda’r berthynas yn oeri neu hyd yn oed yn suro, a dod yn barlys nad yw’n rhyddhau nac yn cyflawni. Oherwydd, onid oes raid i hyd yn oed ‘fynegiant wedi’i addasu o undod organig’ esgor ar rai canlyniadau diriaethol, po fwyaf fyth y bo’r addasu, os yw i fod yn rhywbeth amgen na phatrwm ‘eglwysi ynghyd’?

Teulu mawr yw CYTÛN nad yw bob amser yn un dedwydd ychwaith: chwiorydd, brodyr, modrybedd, ewythrod a chefndryd cyntaf ac ail gefndryd o amryw genedlaethau! Gyda chysylltiadau cyffredin a hanesion ar y cyd yn eu clymu. Yn caru ac yn casáu ei gilydd ar yn ail ac eto’n cydnabod llinach gyffredin a’r un gwneuthuriad genetig.

Mae’r pum aelod cyfamodol o’r teulu mawr, gwasgaredig hwn, fodd bynnag, am fynd ymhellach - am gydfyw fel teulu sy’n rhannu’r un ffydd; am greu perthynas newydd a dyfnach ac am ildio peth o’u hannibyniaeth er mwyn profi ffordd gyfoethocach o fyw a bod. Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. [Galatiaid 6:10]

Gall cyfamodi ar y dechrau fod yn fynegiant wedi’i addasu o undod organig, ‘eto mewn gweithred ddwys mae’r eglwysi’n gofyn i Dduw drwy’r Ysbryd Glân greu o’u bywydau ar wahân gymuned eglwysig newydd sydd wedi ymrwymo i gyd-genhadu yn y byd’.

Mae cyfamodi, felly, yn fater difrifol. Dywed John Holdsworth, Archddiacon Tyddewi a chyn brifathro Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, hyn ynghylch Cyfamodau’r Beibl: ‘Yr egwyddor ddiwinyddol sy’n bwysig yn y Cyfamod yw mai Duw sy’n cymryd y cam cyntaf. ... Mae Duw yn gweld ac yn gweithredu. Gelwir ar fodau dynol i ymateb. ... Cyfrifir y parodrwydd i ymateb yn briodol yn ufudd-dod a methiant i wneud hynny’n anufudd-dod.’

Mae’n ein hatgoffa bod ‘y Cyfamod yn gytundeb rhwng partneriaid anghyfartal, y cryf a’r gwannach’. Mae Duw yn cychwyn ‘ar y berthynas hon nid oherwydd bod yna ryw fath o orfodaeth arno i wneud hynny ond oherwydd ei fod yn dymuno gwneud er nad oes angen iddo.’ [The Old Testament, SCM 2005, tudalennau 77-79 – wedi’i gyfieithu]

‘Mae defod y cyfamod yn Exodus 24 (3-8) yn cael ei hadleisio yn nhraddodiad diweddarach y swper olaf yn y Testament Newydd (yn benodol ym Mathew 26:28, Marc 14: 24 a gyda chyfeiriad yn Ioan) a hefyd mewn gwasanaethau cymun Cristnogol modern.’ Oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.

Ac yn natganiadau’r proffwydi daw’r Cyfamod yn safon ymddygiad pobl Dduw. Dyma faen prawf eu ffyddlondeb.

Rhaid i ni ofalu nad ydym yn glastwreiddio realiti cig a gwaed ein perthynas gyfamodol o fewn rhyw ysbrydolrwydd cyfriniol, gwacsaw, fel y rhybuddiodd Gwenallt yn ei gerdd anorffenedig, Magnificat:

Ond er nad oedd yn dlawd preseb anifail oedd ganddo,

A’i fam yn wraig gyffredin wedi ei phrydferthu gan ras Duw.

Ein tuedd ydyw cau y ddau yn eu canrif a’u cenedl,

Gan droi Ei grefydd yn ysbrydol, ac anghofio’r cnawd.

Gwaith gwaedlyd yw cyfamodi felly. Nid rhyw syniad clyfar mohono a gonsuriodd rhyw anoraciaid eglwysig i atal dirywiad yr eglwysi. Ymateb dynol ydyw i symbyliad Duw. Efe sydd wedi ein gwahodd i gyfamodi er undod. Syniad Duw ydyw. Mae’n ‘enghraifft eglur o gariad Duw a gras Duw.’

Ac mae’r fath gariad rhyfeddol yn mynnu ymateb ...

Felly ym 1975, mewn gwasanaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Seilo yn Aberystwyth, fe sefydlwyd y Cyfamod Cymreig, gyda phregeth gadarnhaol gan Archesgob Cymru ar y pryd, G O Williams. Dyna benllanw pymtheng mlynedd o fyfyrio ac ysgrifennu diwinyddol dwys gan ysgolheigion Anglicanaidd, Presbyteraidd, Methodistaidd a Diwygiedig. O’r gwaith hwn deilliodd testunau craidd y Cyfamod sef Cyfamodi yng Nghymru (1968) a Cyfamodi ar gyfer Undeb yng Nghymru, a ymddangosodd mewn dwy ran yn ystod 1971. Mae’r holl ddeunydd bellach ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Amser maith yn ôl y bu hynny.

Ar ôl sefydlu’r Cyfamod ym 1975 y cam allweddol nesaf i’w gymryd fyddai symud o gydnabod i gymod, o undod wedi’i addasu i undod cyflawn. Dywed pumed cymal y Cyfamod yn eglur mai bwriad yr eglwysi oedd ceisio patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno, yr hwn a wasanaetha’r efengyl mewn undeb, a arddengys ei pharhad drwy’r oesoedd, ac a dderbynnir cyn belled ag y gellir gan yr Eglwys drwy’r byd oll’. Cytunodd yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac (yn ddiweddarach) yr Eglwysi Bedyddiedig Cyfamodol oll i geisio hynny.

Felly ymddangosodd Gweinidogaeth mewn Eglwys yn Uno naw mlynedd yn ddiweddarach, ym 1986. Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddwyd gwasanaethau drafft ar gyfer Sefydlu Eglwys yn Uno yng Nghymru (1987) (a seiliwyd ar yr ymatebion i Egwyddorion Undeb Gweledig yng Nghymru a gyhoeddwyd ym 1980) a threfn gwasanaeth Y Cymun Sanctaidd ym 1981, sef efallai’r testun litwrgïaidd mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o holl gyfnod y cyfamodi. Ac wedyn aeth y daith yn fwy garw:

Tanau’r nos yn diffodd yn yr anial digysgod,

Heibio dinasoedd bygythiol a threfi digroeso ...

Caled a thrwm fu’r daith.

Er, i’r eglwysi cyfamodol, nid yn gymaint y dinasoedd a threfi a oedd yn fygythiol a digroeso, eithr elfennau o fewn eu traddodiadau hwy eu hunain, a ofnai golli aur, thus a myrr pob etifeddiaeth unigol. Pobl dda, pobl ddidwyll, eithr fel camelod y Doethion

Dolurus, cloff a styfnig,

Yn stond yn yr eira gwlyb ...

Roedd arweinwyr yr eglwysi’n digalonni a gweinidogion ac offeiriaid lleol yn gweld y cyfan yn aflonyddu ar eu prif dasg o gadw’r defaid oedd ganddynt ac ychwanegu atynt.

Daeth hiraeth ar dro i’n hudo

Nôl i balasau llechweddau’r haf a therasau’r heulwen

- palasau Anglicanaidd a therasau Presbyteraidd, Methodistaidd, Diwygiedig a Bedyddiedig lle roeddem oll yn gartrefol. Yn wir,

Oer, oer fu’r antur,

Ar union adeg waetha’r flwyddyn

I deithio, a theithio mor bell.

Felly pa seren oedd hi a ysgogodd ein rhagflaenwyr i gychwyn ar y daith wallgof, beryglus hon?–

A’r lleisiau’n gwingo’n clustiau

Wrth ddamnio’n ffwlbri.

Beth felly sy’n parhau i’n dwyn ynghyd ar ddiwrnod fel heddiw?

Rhodd. Heddiw fel bryd hynny.

... tair coeden ar orwel unig ...

Argyhoeddiad bod rhaid iachau’r rhwygiadau a greithiodd ein hanes fel Cristnogion dros y mil o flynyddoedd a aeth heibio. Deall o’r diwedd bod y rhaniadau a gofleidiwyd gennym fel cryfderau wedi tanseilio’n hymdrechion didwyllaf i gynnig gair o gymod i fyd blinderus.

Fodd bynnag, ni welodd Gweinidogaeth mewn Eglwys yn Uno ddechrau’r ras, gyda dau allan o bum perchennog y ceffyl hwn yn ofni na chyrhaeddai’r llinell derfyn! Yn hytrach, ceisiwyd tir mwy diogel gyda chyhoeddi testunau llai dadleuol. Cyhoeddwyd dwy gyfrol ynghylch Bedydd Cristnogol ac Aelodaeth Eglwysig ym 1990 a 1994, testunau defnyddiol yn cynnig Gwasanaeth Bedydd ac enghraifft o wasanaeth Cadarnhau neu Ailgadarnhau Ffydd ynghyd â thraethodau academaidd ar Fedydd ac Aelodaeth Eglwysig ac ar Weinidogaeth Pobl Dduw. Defnyddiol eithr ymylol.

Ond ni fu cyngor a doedd ond parhau

Gan gyrraedd gyda’r nos, a diolch fyth am hynny:

Canfod y lle; a’i gael, gallech ddweud, yn weddol.

Un o’m tasgau cyntaf ar ôl cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwysi Cyfamodol ym 1990 oedd dadansoddi ymateb yr eglwysi i’r ceffyl na redodd, Gweinidogaeth mewn Eglwys yn Uno. Yr hyn a’m trawodd bryd hynny, ac nid oes gennyf unrhyw reswm i gredu fod pethau’n wahanol dau ddegawd yn ddiweddarach, oedd, er yr holl betruso ynghylch ffurf y ‘patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno, yr hwn a wasanaetha’r efengyl mewn undeb, a arddengys ei pharhad drwy’r oesoedd, ac a dderbynnir cyn belled ag y gellir gan yr Eglwys drwy’r byd oll, nad oedd yr un o’r pum traddodiad wedi gwadu’r posibilrwydd yn llwyr.

Felly dechreuwyd ar hyd ffordd arall a chyhoeddwyd Tuag at Benodi Esgob Ecwmenaidd yng Nghymru ym 1997. Ac unwaith eto, dyma geffyl na chafodd gychwyn y ras! Serch hynny, roedd yna lawer o ddiddordeb yn y syniad bryd hynny, dramor yn ogystal â chartref, ac mae’r diddordeb hwnnw’n parhau heddiw. Ac mae’r rhai y gwrthodwyd arolygiaeth o’r fath iddynt yn parhau mewn loes, mewn syndod - ac mewn gobaith.

Fy eglwys innau yw Eglwys Dewi Sant ym Mhartneriaeth Ecwmenaidd Cyncoed. Dyna lle rwyf yn aelod. Efallai fy mod yn addoli’n amlach yn Eglwys Gyfannol Treganna (Bedyddwyr/EDdU) ond teulu Cyncoed ydy’r unig le yng Nghymru sy’n uno’r Anglicaniaid a’r Bedyddwyr yn swyddogol ac ar ôl fy mhrofiad ym Milton Keynes a’m gwasanaeth i’r Cyfamod yng Nghymru ni allaf, fel Bedyddiwr, deimlo’n gyfforddus bellach mewn cymuned eglwysig ecwmenaidd nad yw’n cynnwys partneriaeth â’r Anglicaniaid.

Achos os yw cyfamodi’n golygu unrhyw beth mae’n ymwneud yn y pen draw â chymodi rhwng gweinidogaethau esgobyddol ac anesgobyddol fel y gallwn, yng ngeiriau ail gymal y Cyfamod, ‘weithredu, llefaru a gwasanaethu gyda’n gilydd mewn ufudd-dod i’r efengyl yn y fath fodd ag i ddysgu mwy o'i chyflawnder a’i gwneuthur yn hysbys i eraill mewn iaith gyfoes a thrwy dystiolaeth gredadwy.’ Dyma eiriad nad yw wedi dyddio ac sy’n tystio i hygrededd diwinyddol ac ysbrydolrwydd aeddfed o radd uchel iawn. Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri! A g?yr yr Anglicaniaid, os na allant ganfod ffordd o gyflwyno esgobyddiaeth mewn ffordd sy’n atyniadol i draddodiadau anesgobyddol, na allwn fyth symud o gydnabod i gymod. I’r graddau hynny, problem i’r Anglicaniaid yn bennaf yw hon.

Amser maith yn ôl y bu hynny, mi gofiaf, meddai un o’r Doethion yn ei henaint,

A byddwn yn mentro eto, ond nodwch

Nodwch hyn

Hyn: a deithion ni gyhyd am fywyd ynteu fedd?

A dyna ni’n dod at graidd diben cyfamodi, sef esgor ar y nod o mor uchelgeisiol hwnnw o sefydlu eglwys unedig ac eglwys sy’n uno gan wybod na all hynny ddigwydd heb i rai pethau farw. Felly dychwelwn dro ar ôl tro at y Cyfamod hwn, gyda’n Datganiadau Trefeca ac ati,

A’r lleisiau’n gwingo’n clustiau

Wrth ddamnio’n ffwlbri

a ninnau am ei hepgor, ac eto heb ddymuno hynny oherwydd ein bod wedi cael cip ar yr hyn a allai fod.

Rydym ni a’n rhagflaenwyr wedi cyfarfod fel hyn cymaint o weithiau yn ystod y deugain mlynedd a phump a aeth heibio ac wedi, fel Doethion Eliot,

Dychwelyd i’n lleoedd ein hunain, y Teyrnasoedd hyn,

Eto’n anniddig bellach,o dan yr hen drefn.

Ac nid gwael o beth teimlo felly, os, a dyfynnu’r Cyfamod drachefn, er na ‘wyddom eto pa ffurf a gymer undeb ... down at ein tasg yn agored i’r Ysbryd’.

 

Gethin Abraham-Williams (09 Rhagfyr 2009)

 

 
 
 
 

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: "Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited"
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071