Dolenni:

Adroddiad o'r Cydgynulliad


Yn ôl i'r adroddiadau


 

 
Defosiwn

TARDDIAD - ERTHYGL: Y Gwyliedydd - Gan y Parch. John Bryn Jones
DYDDIAD: Rhifyn 184 - Awst a Medi 2013

Cyfeiriais droeon yn y golofn hon at yr angen am drafodaethau yn ymwneud â’r pum enwad a fyddai’n arwain at ffurfio Eglwys Unedig Cymru. Sylweddolaf nad tasg hawdd o bell ffordd fyddai gweld hynny’n digwydd. Byddai llawer ohonom yn falch iawn o weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu, oherwydd bod synnwyr yn dweud nad oes dim i’w ennill wrth oedi. Mae cyflwr pob Eglwys sydd wedi ymrwymo yn y Cyfamod, ar wahân i resymau eraill, megis lleihad mewn aelodaeth yn ogystal â phrinder ymgeiswyr i’r weinidogaeth, siawns yn ddigon o reswm iddo ddigwydd.

Gwyddom hefyd bod eglwysi yn gorfod cau, nid yn unig oherwydd y ddau beth a nodais, ond hefyd am fod ymdeimlad cynyddol mai gwastraff, a bod yn anghyfrifol yw tywallt arian i gynnal adeiladau nad oes mo’u hangen. Fel mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, dylid defnyddio’r arian sydd ar gael ar gyfer gwir waith Eglwys Crist, sef cenhadaeth a gwneud y gorau o’r adnoddau dynol ac adeiladau sy’n werth eu cadw.

Fodd bynnag, yn dilyn Cynhadledd Aberystwyth ym mis Hydref y llynedd, cafwyd cynllun uno i’w drafod gan y pum enwad, a disgwylir iddynt ymateb i’r hyn a argymhellir erbyn mis Medi eleni. Y cyfan ddywedaf i yw y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn agos i wyrth i weld llwyddiant. Mae fy nghydymdeimlad â’r rhai sy’n gyfrifol am lywio’r cynllun, cyn y gwelwn lwyddiant. Ni ddywedaf mwy ar hyn o bryd.

Mewn eglwys unedig, mae’n amlwg y byddai mwy o adnoddau dynol gyda dulliau a syniadau na ellid eu gweithredu mewn eglwysi bychain fel sydd gennym ymhob enwad, ac eithrio eglwysi mewn trefi a dinasoedd. Yno mae’r boblogaeth yn fwy, a hyd y gwn i, nid oes cymaint o sôn am gau capeli ac eglwysi fel sy’n digwydd yng nghefn gwlad. Mae hyn yn siarad drosto’i hunan eto oherwydd bod lleoliad a dosbarthiad addoldai yn anghyfartal ac mae’r union beth yn wir am weinidogion ac offeiriaid. Yn syml, ceir gormod yn gwasanaethu mewn rhai lleoedd a rhy ychydig mewn mannau eraill. Mae’n hen bryd i rywbeth ddigwydd oherwydd synnwn i ddim bod llawer o’r bobl nad ydynt yn mynychu ein haddoldai yn synnu at ein crefydd a’n rhwygiadau. Ni ryfeddaf fod diwinydd o’r Almaen - Emil Brunner - wedi galw ein rhaniadau yn warth, The Scandal of Our Divisions. Os nad yw’n rhaniadau’n groes i’r hyn a ewyllysia Duw, wn i ddim beth sydd. Bydd yn rhaid inni fod yn amyneddgar nes y cawn weld beth fydd ymateb y pum enwad i’r Cynllun Uno.

Ni ddylid anghofio fodd bynnag, doed a ddelo, bod cyd-weithio hapus a boddhaol yn digwydd mewn rhai lleoedd, megis yn Llangollen, Llandudno a Phowys, heb anghofio’r lleoedd hynny lle ceir gwasanaethau a chyfarfodydd ar y cyd yn ogystal â newid pulpudau. Mae hyn i gyd i’w groesawu ac yn haeddu cael eu hybu, lle mae hynny’n bosibl. Fel dywed yr hen ddihareb Nid da lle gellir gwell. Diolchwn am unrhyw ddull teilwng sy’n amcanu at hyrwyddo gwaith yr Efengyl, boed hynny lle bynnag y bo. Ond credwn mai Cymru yw’n maes cenhadu ni, er i’n Tad yn y Ffydd, John Wesley ddweud mai’r Byd yw ei Blwy’. Digon gwir, nid oes ffiniau yn perthyn i waith y Deyrnas, ond ni allwn fod ymhobman. Rhaid dewis y nesaf peth at hynny, sef cofio’r byd yn gyfan yn ein gweddïau a hynny’n gyson. Deled dy Deyrnas, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

 

 
Administered by Cytûn © 2013