Dolenni:

Adroddiad o'r Cydgynulliad


Yn ôl i'r adroddiadau


 

 
Cynulliad hanesyddol Aberystwyth?

TARDDIAD: Tudalen flaen Y Goleuad
DYDDIAD: Gwener Hydref 19, 2012

Yr oedd popeth ynglyn a’r Cydgynulliad yn Aberytwyth yn ardderchog. Yr oedd paratoadau manwl Gweithgor Comisiwn Cyfamodol yr eglwysi yng Nghymru – gan gadeiryddiaeth Gethin Abraham Williams a gwaith caled a thrylwyr Rhian Linecar, swyddog yr Eglwysi Cyfamodol – yn proffesiynol ac effeithiol. Nid hawdd yw trefnu cynhadledd undydd i dros 400 o bobl, ond fe wnaethpwyd hynny - o’r pecynnau bwyd i greu llwyfan hardd ac offer technegol effeithiol.

Yr oedd yno awyrgylch gyfeillgar a chyffrous a hynny yn cael ei adlewyrchu yn y moliant. Yr oedd y dogfennau a baratowyd ymlaen llaw wedi eu cyflwyno yn raenus ac yn glir ac yr oedd pawb yn falch fod y diwyg yn adlewyrchu pwysigrwydd y cyfan i’r rhai fu’n paratoi. Yr oedd presenoldeb Olav Tveit ar ran Cyngor Eglwysi’r Byd yn ein hatgoffa fod y cyfan yn rhan o waith Duw yn ei fyd trwy dystiolaeth a Bywyd yr eglwys. Rhodd i’w dathlu yw undod, meddai, ac i ddathlu undod yw i ddathlu undod bywyd a byd.

Cafwyd cyflwyniad dramatig effeithiol-hanesyddol-diwinyddol-dychanol-ddoniol ar thema undod yr eglwys gan Gwmni Cydweithredol Troed y Rhiw a chyflwyniad a drodd yn apêl weddigar dawel gan genhedlaeth iau ac yn gorffen gyda chwlwm un Arglwydd, un ffydd…ac un eglwys. Cyfle i wrando ar leisiau ieuenctid oedd y sesiwn ‘Ail drefnu – yr her i’r eglwysi’ a oedd yn ein hagoffa mai galwad i genhadaeth i’n byd cyfoes yw unod yr eglwys. Gwelsom hefyd y DVD yn cyflwyno yn glir y dewis sydd o’n blaenau.

Yn y Gwasanaeth Cymun ar ddiwedd y cynulliad cawsom ddefnyddio am y tro cyntaf y fersiwn ddiwygiedig o’r gwasanaeth Cymun i’r Eglwysi Cyfamodol (gwaith y Panel Litwrgi dan gadeiryddiaeth Glyn Tudwal Jones) a chael gwerthfawrogi cyfoeth y gwasanaeth a chyfoeth yr iaith. Ac er nad yw Neuadd Gyngerdd fawr y lle mwyaf ymarferol y weinyddu’r cymun, fe wnaethpwyd hynny hefyd yn effeithiol iawn. Gyda chymaint i’w ganmol a’i werthfawrogi am ddiwrnod cofiadwy, mae’n rhy gynnar i neb ohonom oedd yno fod yn feirniadol ynglyn a rhai pethau eraill.

Un peth yn unig y mae’r Goleuad am ei bwysleisio ‘drannoeth y Cydgynulliad’ fel petae. (Y mae’r geiriau hyn yn cael eu hysgrifennu nos Sul Hydref 14.) Fe ddaw amser i leisio barn eto. Mae’n amlwg iawn i ni fel enwad beth sydd angen ei wneud. Mae’r dogfennau sydd yn ein meddiant bellach, yn ogystal a bron i 40 mlynedd o fod yn un o’r eglwysi cyfamodol ac o ymrwymiad i’n gilydd ac i Dduw, yn golygu y bydd yn rhaid i ni fod yn gwbwl o ddifrif ynglyn a’r drafodaeth hon gan ymwrthod yn llwyr ag anwybodaeth neu ddywediadau ystrydebol a rhagfarnllyd.

Mae gennym tan 2014 i ddewis : a ydym am barhau â’r Cyfamod hwn a holl oblygiadau parhau mewn pererinod ‘eglwys sy’n uno’, ynteu a ydym am am ei wrthod? Ac os ei wrthod, a ydym am gamu yn ol a bodloni ar hynny? A ydym am gladdu am byth y rhodd o unod y mae Duw wedi ei roi i ni yn ei Fab a bodloni ar barhau â’r rhaniadau enwadol anghydffurfiol nad oes unrhyw reswm am ei barhau o gwbwl, petae ni yn ddigon gonest a dewr i gydnabod hynny? Cynulliad hanesyddol Aberystwyth? Gawn ni weld.

 

 
Administered by Cytûn © 2013