Dolenni:

Adroddiad o'r Cydgynulliad


Yn ôl i'r adroddiadau


 

 
Teulu'r Mans : gan Vaughan Roderick

TARDDIAD: BLOG - Vaughan Roderick, BBC
DYDDIAD: 10/10/2012

Y penwythnos nesaf fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal a fyddai mewn cyfnod arall yn cael ei gyfri’n un o bwys hanesyddol i Gymru. Mae’n arwydd o drai crefydd ym mywyd ein gwlad bod y stori wedi cael ychydig iawn o sylw y tu hwnt i furiau ein Capeli ac Eglwysi.

Y ‘Cydgynulliad’ yw enw’r digwyddiad ac yn ôl gwefan yr Eglwys Bresbyteraidd fe allai fod yn “drobwynt pwysig i Gristnogaeth Gymreig”.

Cyfarfod o’r Eglwysi Cyfamodol yw’r Cydgynulliad. Mae’r rheiny yn cynnwys yr Anglicaniaid a’r rhan fwyaf o’r enwadau anghydffurfiol. Fe fydd yr Hen Gorff yno ynghyd â’r rhan fwyaf o’r Bedyddwyr, y Methodistiaid a’r Eglwys Rydd Diwygiedig. O’r enwadau mawrion traddodiadol dim ond yr Annibynnwr sy’n cadw draw.

I danlinellu pwysigrwydd y digwyddiad fe fydd Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi’r Byd yn bresennol wrth i gyfres o gynlluniau gael eu cyhoeddi - cynlluniau sydd yn ôl y Presbyteriaid yn rhai “creadigol a beiddgar ar gyfer gweddnewid y sefyllfa eciwmenaidd yng Nghymru”.

Yr hyn sydd dan sylw mae’n debyg yw cam enfawr tuag at gael gwared ar yr hollt rhwng y Capel a’r Llan tra’n diogelu gwahanol draddodiadau o fewn fframwaith Eglwysig newydd. O safbwynt hanes Cristnogaeth yng Nghymru gallai’r digwyddiad hwn gynrychioli’r newid mwyaf yn ein bywyd crefyddol ers dyddiau Hywel Harris a Daniel Rowland.

Yn gefndir i hyn oll wrth gwrs mae’r argyfwng sy’n wynebu’r Eglwysi o safbwynt eu haelodaeth, eu hadeiladau a’u hoffeiriadaeth.

O fewn cwta ganrif fe drodd Cymru o fod yn un o wledydd mwyaf crefyddol y byd i un o’r lleiaf. Yn 1905 roedd gan y Presbyteriaid 170,000 o bobol yn derbyn cymun yn fisol. Ganrif yn ddiweddarach yn 2005 180,00 oedd cyfanswm addolwyr rheolaidd ein holl Gapeli ac Eglwysi gyda’i gilydd. Mater o ‘gilio i grynhoi ei mwy adfer’ yw’r Cydgynulliad mewn gwirionedd felly.

Pam godi’r peth o gwbwl ar flog gwleidyddol? Mae ‘na reswm!

I raddau helaeth iawn mae traddodiadau a rhaniadau crefyddol y genedl wedi dylanwadu ar ei thraddodiadau a rhaniadau gwleidyddol. Plaid y Llan oedd y Ceidwadwyr tra bod y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru ar y cyfan yn bleidiau capel. Roedd p’un ai oedd Llafur yn blaid capel neu’n blaid Gatholig yn dibynnu ar ble yn union yng Nghymru yr oeddech chi!

Rwyf wedi dadlau droeon bod pleidiau Cymru yn debycach i enwadau na phleidiau go iawn. Mae eich ymlyniad i un ohonyn nhw yn fwy o fater o gefndir, teulu, iaith a dosbarth nac o syniadaeth na pholisi.

Os ydy’r muriau rhwng yr enwadau yn chwalu os gobaith am wleiyddiaeth ychydig yn fwy aeddfed tybed?

 

 
Administered by Cytûn © 2013