Yr Eglwys yng Nghymru
11Mai
Datganiad i'r Wasg
Peidiwch ymddiheuro am y ‘Cristnogol’ yn Cymorth Cristnogol - medd Esgob.
Mae elusen Cymorth Cristnogol yn dangos cariad Duw ar waith ar draws y byd, a dylai eglwysi fod yn falch i'w chefnogi - meddai Esgob Abertawe ac Aberhonddu heddiw.
Mae'r Esgob John Davies yn annog pob eglwys yng Nghymru i wneud ymdrech ychwanegol i roi sylw i waith yr elusen yn ystod yr wythnos Cymorth Cristnogol sy'n dechrau'r dydd Sul hwn (13 Mai).
Dywedodd yr Esgob John, cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Cymru ac aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth Cristnogol, "Bydd amlen fach goch Cymorth Cristnogol yn mynd drwy bron bob drws yr wythnos hon ac efallai y bydd rhai'n edrych am ychydig o arian mân i'w roi ynddi. Gobeithio y bydd llawer yn cyfrannu'n fwy hael! Rydym yn dibynnu ar ein plwyfolion gwirfoddol i wneud y gwaith lleol hwnnw, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac fe wnânt hynny oherwydd y sylweddolant fod yr Wythnos Cymorth Cristnogol yn anhygoel o werthfawr fel gweithred o dystio ac ymgysylltu ar lefel leol. Aiff i galon ein ffydd, ac mae'n rhoi gwaith yr elusen yn llygad y cyhoedd.
“Ond er bod yr Wythnos Cymorth Cristnogol yn hanfodol wrth godi'r proffil, mae Cymorth Cristnogol ei hunan yn ymwneud â llawer mwy na'r casgliad stryd blynyddol a digwyddiadau cefnogi. Mae'n elfen ryngwladol sy'n gweithio mewn ugeiniau o leoedd ar draws y byd, yn aml mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Mae'n rhoi cymorth arbenigol i'r rhai sydd mewn angen ond hefyd yn ymgyrchu'n egnïol yn erbyn tlodi, osgoi treth, ac anghyfiawnder ar faterion amgylcheddol. Mae'n siarad gyda llais cryf ac uchel ei barch ar ran pobl dlawd a phobl ar yr ymylon, ac mae ganddo le anrhydeddus wrth y bwrdd lle caiff materion tlodi ac anghyfiawnder eu trin.
"O'r herwydd, mae Cymorth Cristnogol yn arddangos teyrngarwch ymarferol i Grist a neges yr Efengyl. Felly peidiwch ymddiheuro am y 'Cristnogol' yn Cymorth Cristnogol - mae'n dyst Cristnogol ar ei orau ymarferol."
Fis diwethaf pleidleisiodd Corff Llywodraethu yr Eglwys yng Nghymru i gefnogi gwaith parhaus Cymorth Cristnogol. Gwahoddwyd Loretta Minghella, cyfarwyddwr yr elusen, i'r cyfarfod i siarad am y gwaith. Cymeradwyodd hefyd waith yr Eglwys yng Nghymru yn Gaza drwy ariannu'r Clinig Symudol Deintyddol: "Dyma gariad Iesu Crist ar waith - rydym yn falch i fod yn rhan ohono."
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Anna Morrell
Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
02920 348208 | 07919 158 794
39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9XF
www.eglwysyngnghymru.org.uk
Twitter: @ChurchinWales
NODIADAU
Cafodd y cynnig dilynol ei basio'n unfrydol gan Gorff Llywodaethu'r Eglwys yng Nghymru yn ei gyfarfod ym mis Ebrill;
Bod y Corff Llywodraethu yn:
(i) cadarnhau ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Cymorth Cristnogol ym mhob rhan o'r byd wrth godi ymwybyddiaeth o faterion datblygu rhyngwladol a chyfiawnder byd-eang;
(ii) cefnogi blaenoriaethau ymgyrch bresennol Cymorth Cristnogol ar gyfer newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder treth;
(iii) croesawu gwaith Cymorth Cristnogol yn y Deyrnas Unedig o godi ymwybyddiaeth o faterion datblygu rhyngwladol a materion o gyfiawnder byd-eang;
(iv) cydnabod gyda diolch y gefnogaeth ariannol, gweddïol a chefnogaeth arall a roddir gan eglwysi, Grwpiau Cymorth Cristnogol ac unigolion, yn arbennig yng Nghymru, a chroesawn y cyfraniad a wnaiff hyn i waith parhaus Cymorth Cristnogol.
|