cytun cytun-c English/Saesneg
 
Dolenni:


Er Mwyn i'r Byd Gredu - Gwaith Diweddar Cytûn


Datganiadau i'r Wasg


Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru


Gwefan Rhyng-Ffydd Cymru


English / Saesneg

 

 
Croeso Cynnes i Wefan Cytûn

Mae Cytûn yn uno mewn pererindod yr eglwysi hynny yng Nghymru sydd, gan gydnabod datguddiad Duw yng Nghrist, yn cyffesu yr Arglwydd Iesu Grist yn Dduw a Gwaredwr yn ôl yr Ysgrythurau; ac mewn ufudd-dod i ewyllys Duw ac yng ngrym yr Ysbryd Glân, yn ymrwymo'u hunain i geisio dyfnhau eu cymundeb â Christ ac â'i gilydd yn yr Eglwys, sef ei gorff ef, ac i gyflawni eu cenhadaeth o gyhoeddi'r efengyl drwy dystiolaethu a gwasanaethu gyda'i gilydd yn y byd, er gogoniant yr un Duw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.

Ymdrechir i wneud hyn mewn sawl ffordd.

Fe'ch gwahoddir i ymweld â'n tudalen newyddion.



PABELL EGLWYSI CYMRU (CYTÛN) YN
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BRO MORGANNWG 4 – 11 AWST 2012
– Gwybodaeth am Gyfarfod Trefnu 21.02.12

MAE PABELL EGLWYSI CYMRU (CYTÛN) AR FAES YR EISTEDDFOD
ANGEN EICH HELP CHI!

Eleni bydd eglwysi Cymru sydd wedi ymroi i amcanion a chred Cytûn yn darparu croeso cynnes ar faes yr Eisteddfod. Bydd pabell fawr gennym eto a byddwn yn cynnal addoliad bob bore a digwyddiadau eraill yn ystod y dydd. Bydd cornel o weithgareddau i blant a bydd te a choffi ar gael drwy’r dydd, bob dydd. Bydd siop lyfrau ac adnoddau Cristnogol Cyngor Ysgolion Sul yna drwy’r wythnos a bydd cynrychiolaeth o fudiadau Cristnogol eraill fel Cymdeithas y Beibl a CAFOD. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r babell yma wedi troi allan i fod yn un o’r rhai prysuraf ar faes yr Eisteddfod gan gynnig croeso a hafan i filoedd dros yr wythnos.

Ond, i sicrhau llwyddiant y babell mae angen gwirfoddolwyr – Cymry Cymraeg a di-Gymraeg.

Bydd cyfarfod i ddechrau’r trefnu yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YU NOS FAWRTH, 21 CHWEFROR 2012 am 6.30pm.

DEWCH I’N CEFNOGI, OS GWELWCH YN DDA!

 



Deunydd y Grawys 2012.

cliciwch yma » www.ctbi.org.uk/572

 

 

 

 



"Yr Oedfa" - Wythnos Weddi am Undod Cristnogol:
- BBC Radio Cymru

cliciwch yma i lawrlwytho'r MP3 » OEDFA (MP3)

Darlledwyd yn wreiddiol ar ddydd Sul, 22ain Ionawr
Defnyddiwyd drwy ganiatâd BBC Radio Cymru
.

 

 

 

 

 
 
 
 

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: "Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited"
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071