cytun cytun-c English/Saesneg
 
Dolenni:

Deunydd Addoli


Fideos


Pecyn Papurau Briffio


Cynnal Cyfarfodydd gydag Ymgeiswyr


Rhestr o gyfarfodydd gydag Ymgeiswyr


Dolenni


 
Etholiadau 2016

Cliciwch YMA am Fwletin Polisi ychwanegol yn cyflwyno rhai materion o faniffestos y pleidiau ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru. Mae croeso i chi ei gylchredeg i’ch rhwydweithiau.

ETHOLIADAU CYMRU 2016 – CANLLAW CWTA
Ar y 5ed o Fai 2016, caiff etholwyr Cymru eu cyfarch gan ddau etholiad gwahanol, tair system bleidleisio wahanol, a thair ffin etholaethol wahanol. Dyma ganllaw cyflym o beth i’w ddisgwyl.

Cofrestru i bleidleisio
Er mwyn taro pleidlais yn yr etholiadau fis Mai, rhaid sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru, ni fyddwch yn medru pleidleisio. Mae hyn yn enwedig o bwysig yn sgîl diwygiad diweddar i’r broses gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn golygu fod rhaid i bob unigolyn gofrestru ar wahân (yn hytrach na fesul teulu neu trwy neuadd breswyl ac ati). Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, fe ddylech dderbyn llythyr gan eich Cyngor Lleol yn nodi hyn. Fel arall, gellir cofrestru’n hawdd iawn ar-lein neu drwy’r post – sylwer y bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch i wneud hyn. Cewch hefyd yr opsiwn i gofrestru am bleidlais bost. Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio fe ddylech dderbyn Cerdyn Pleidleisio ychydig wythnosau cyn yr etholiad a fydd yn nodi’r orsaf lle gewch bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Nid oes angen mynd â’r cerdyn gyda chi i’r orsaf bleidleisio.

Caiff dinasyddion o’r Gymanwlad a’r Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yng Nghymru hefyd bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Os oes gennych ymholiadau pellach ynghylch cofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu cysylltwch â’ch Cyngor Sir. Y dyddiad terfynol i gofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 18fed Ebrill 2016.

Etholiadau’r Cynulliad
Ers ei sefydlu yn 1999 mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi datblygu’n sylweddol, gan bellach ddal grym deddfu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys iechyd, addysg, yr amgylchedd a thai. Yn y gorffennol, cynhaliwyd etholiadau’r Cynulliad bob 4 mlynedd, ond ers yr etholiad diwethaf yn 2011 fe newidiwyd hyn i bob pum mlynedd i osgoi gwrthdaro gydag etholiadau San Steffan. Caiff 60 o aelodau eu hethol i’r Cynulliad drwy system etholiadol rhannol-gyfrannol, gyda 40 aelod etholaethol yn cael eu hethol drwy system etholiadol y cyntaf heibio’r postyn, ac 20 aelod rhanbarthol a etholir drwy system etholiadol Aelod Ychwanegol. Bydd pob etholwr felly yn derbyn dau bapur pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar ddiwrnod yr etholiad.

Y cyntaf heibio’r postyn
Dyma’r un system a gaiff ei defnyddio yn etholiadau San Steffan. Cynhelir yr etholiadau ar draws y 40 etholaeth Gymreig, gyda disgwyl i’r etholwr osod croes gerllaw enw un o’r ymgeiswyr. Bydd yr ymgeisydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau yn yr etholaeth yn cael ei ethol i’r Cynulliad. Gall mwyafrifau’r ymgeiswyr llwyddiannus amrywio’n sylweddol ar draws etholaethau Cymru. Er enghraifft, yn 2011 bu i’r Blaid Lafur ennill sedd Canol Caerdydd gyda mwyafrif pitw o 38 pleidlais, ond ym Mlaenau Gwent cafodd y Blaid Lafur fwyafrif o dros 9,000 pleidlais.

System Aelod Ychwanegol
Ceir 5 Rhanbarth etholiadol yng Nghymru, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru. Etholir 4 aelod i bob rhanbarth.

Cyflwynwyd y system Aelod Ychwanegol er mwyn sicrhau elfen o gyfranoldeb yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n gwobrwyo pleidiau sydd wedi ennill nifer o bleidleisiau, ond heb ennill fawr o seddi etholaethol. Er enghraifft, yn 2011 bu i’r Democratiaid Rhyddfrydol ond ennill 1 sedd etholaethol, ond bu i’r blaid ennill 4 sedd ranbarthol drwy’r system Aelod Ychwanegol. Cyfeirir at y bleidlais yma yn aml fel ‘rhestr bleidiol’ gan fod etholwyr fel arfer yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolyn. Pe dymunant, gall etholwyr bleidleisio am blaid wahanol yn etholaethol a rhanbarthol, neu fe allant bleidleisio am yr un blaid ddwywaith. Yn draddodiadol, ceir llawer mwy o bleidiau gwleidyddol yn cystadlu ar restr ranbarthol y Cynulliad nag yn yr etholaethau.

Nid ‘ail ddewis’ yw’r ail bleidlais yma. Mae’r pleidleisiau etholaethol a rhanbarthol yn cael eu cyfrif ar wahân, ac mae’r ddwy bleidlais yn cyfrannu i’r canlyniad terfynol. Caiff y seddi rhanbarthol eu dyfarnu yn ôl system d’Hondt (gweler y nodyn ar y diwedd am fanylion). Canlyniad y drefn yma yw bod plaid sydd yn ennill nifer o seddi etholaethol mewn rhanbarth yn annhebyg o ennill nifer o seddi rhanbarthol. Er enghraifft, yn 2011 bu i’r Blaid Lafur ennill 5 sedd etholaethol yn rhanbarth Gogledd Cymru, ond dim un sedd ranbarthol.
Bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr, a gaiff eu hethol i’r Cynulliad yn eu trefn ar y rhestr. Ceir eithriad i hyn, gan y gall ymgeisydd sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol eu plaid. Os yn ennill sedd etholaethol, bydd y sedd ranbarthol yn cael ei phasio i’r ymgeisydd islaw’r unigolyn ar y rhestr bleidiol ranbarthol. Er enghraifft, yn 1999 etholwyd Cynog Dafis (a oedd yn ail ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru Plaid Cymru) i’r Cynulliad, gan y bu i ymgeisydd rhanbarthol safle cyntaf y blaid (Helen Mary Jones) ennill sedd etholaethol yn Llanelli.

Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
Bydd y trydydd papur pleidleisio ar gyfer ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Cyflwynwyd y Comisiynwyr i Gymru a Lloegr yn 2012, gan ddisodli’r awdurdodau heddlu lleol. Mae’r Comisiynwyr Heddlu yn gyfrifol am ddal y Prif Gwnstabl a’r heddlu yn atebol ar ran y cyhoedd, gan hefyd ddal cyfrifoldebau megis rheoli’r gyllideb ac apwyntio Prif Gwnstabliaid.

Ceir 4 Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru: Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent. Mae ffiniau’r lluoedd hyn yn wahanol i ffiniau etholaethau a rhanbarthau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Caiff Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eu hethol drwy system y Bleidlais Atodol (Supplementary vote). Ceir dwy golofn ar y papur pleidleisio - y gyntaf i’r etholwr gael nodi ei ddewis cyntaf, a’r ail ar gyfer ei ail ddewis. Nid oes raid i’r etholwr ddefnyddio’r ail golofn os nad yw’n dymuno gwneud hynny. Caiff y pleidleisiau dewis cyntaf eu cyfrif yn gyntaf. Os oes gan unrhyw ymgeisydd fwyafrif (50%+), cânt eu hethol. Os nad oes gan unrhyw ymgeisydd fwyafrif, mae’r ddau ymgeisydd gyda’r bleidlais uchaf yn mynd i’r ail rownd, tra caiff yr ymgeiswyr eraill eu bwrw allan. Caiff ail bleidleisiau pawb a bleidleisiodd am ymgeisydd a fwriwyd allan eu cyfri. Caiff unrhyw bleidleisiau am y ddau ymgeisydd sydd ar ôl eu hychwanegu i’w cyfanswm. Pa bynnag ymgeisydd sydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau erbyn diwedd yr ail rownd fydd yn ennill.

 

 
 
 
 

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: "Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited"
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071