cytun cytun-c English/Saesneg
 
Dolenni:

« yn ôl i'r dudalen flaenorol

 

 
Adroddiad o Gyngor Eglwysi'r Byd: Awst/Medi 2009

Adroddiad ar Gyfarfod Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd
26ain Awst - 2ail Medi 2009

Mae Cyngor Eglwysi’r Byd ar hyn o bryd yn cynnwys 349 o aelodau o fwy na 110 o wledydd. Y Pwyllgor Canolog yw prif gorff llywodraethol Cyngor Eglwysi’r Byd (CEB) a chynnwys tua 150 o gynrychiolwyr o’r eglwysi sy’n aelodau sef Eglwysi Uniongred y byd yn ogystal ag Anglicaniaid, Bedyddwyr, Lwtheriaid, Methodistiaid, Diwygiedig, unedig ac eglwysi annibynnol. Roedd hefyd nifer o gynghorwyr a sylwedyddion yn bresennol yn y cyfarfod.

Ethol ysgrifennydd cyffredinol newydd i’r mudiad a dewis man cyfarfod ar gyfer ei gymanfa nesaf oedd uchafbwyntiau cyfarfod Cyngor Canolog Eglwysi’r Byd yng Ngenefa, Yr Yswisdir.

Etholwyd y diwinydd Norwyaidd a’r gweinidog y Parchg. Dr. Olav Fykse Tveit, 48, yn 7fed ysgrifennydd cyffredinol CEB.
Roedd dau ymgeisydd am y swydd o Ysgrifennydd Cyffredinol, Y Parchg. Athro Dr. Seong-Won Park a’r Parchg. Dr Olav Fyske Tveit. Rhoddodd y ddau gyflwyniad ffurfiol mewn sesiwn gaeedig o’r cyfarfod ac etholwyd yr ysgrifennydd cyffredinol wedyn trwy bleidlais gudd. Fe fydd Olav Tveit yn olynu yr ysgrifennydd cyffredinol sy’n gadael sef y Parchg. Dr. Samuel Kobia sydd a’i swydd yn dod i ben ar ddiwedd 2009. Tveit fydd yr ysgrifennydd cyffredinol ieuengaf ers Willem A.Viser ‘tHooft a arweiniodd CEB pan oedd yn y broses o gael ei ffurfio ac yn dilyn sylfaenu’r gymanfa 61 mlynedd yn ol.

Dinas Bussan, Gweriniaeth Korea a ddewiswyd fel man cyfarfod 10fed Cymanfa CEB yn 2013.
Roedd 4 man cyfarfod posibl i’r 10fed gymanfa, Bussan, Gweriniaeth Korea; Damascus, Syria; Rhodes, Gwlad Groeg ac Addis Abbaba, Ethiopia. Tynnwyd Rhodes yn ôl fel man cyfarfod oherwydd fod yr Eglwys Uniongred yn awyddus i’r bleidlais beidio a chael ei rhannu. Rhoddodd y tri man cyfarfod oedd ar ôl gyflwyniad, y tri yn dangos fod ganddynt nodweddion gwahanol, ac hyfyd y byddai presenoldeb Cymanfa CEB yn ddigwyddiad o bwys ym mywyd eu gwlad, yn arbennig mewn gwledydd heb fod yn Gristnogol Roedd lleoliad y gwestai mewn perthynas â’r prif fan cyfarfod, hwylustod mynediad i gynrychiolwyr rhyngwladol etc. i gyd yn bwysig.. Ar ôl y bleidlais gyntaf cafodd Ethiopia ei gwrthod ac yna pleidlais gudd i benderfynu’r man cyfarfod. Mae’r fro fydd yn westai yn awyddus i groesawu’r amgylchiad. “Mae’n hyfrydwch mawr iawn i allu gwahodd Cymanfa CEB i Korea” meddai’r Parchg. Dr. Park Jong-wha, cadeirydd pwyllgor rhyngwladol Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi yn Ne Korea.

Mynegodd y gobaith y byddai presenoldeb CEB yn “cyfrannu’n sylweddol at gymodi heddychlon ac ail-uniad i’r penrhyn rhanedig”. Sefydlodd Pwyllgor Canolog CEB hefyd bwyllgor trefnu cymanfa.

 

Rhaglenni a Chyllidau.

Adolygodd y Pwyllgor Canolog waith rhaglennol CEB a mynegi gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaed ers eu cyfarfod olaf. Gan gydnabod na ellir cynnal y rhaglenni fel ag y maent wedi eu trefnu ar hyn o bryd argymhellodd y pwyllgor y dylai’r rhaglenni gael eu hail drefnu. Yn lle bod lleihad yn y gweithgareddau’n gyffredinol, pwysleisiodd yr angen am flaenoriaethau ac agwedd mwy cymedrol, cyfyngedig a chynaliadwy at waith rhaglen. Fel un o’r meini prawf blaenoriaethol, argymhellodd rhoi ffocws ar gyfraniad unigryw CEB fel cyfeillach byd-eang o eglwysi.

Mabwysiadwyd nifer o argymhellion ynghlyn â chyllid 2010. “Rhagwelwn leihad pellach mewn cyfraniadau yn hanner olaf 2009” dywedodd y Deon Anders Gadegaard, llywydd Pwyllgor Canolog y pwyllgor ariannol. Cred Gadegaard y gallai lleihad ychwanegol yn incwm 2010 fod rhywle tua 5 – 10 y cant. Mae cyllideb 2010 ar y funud yn 35.5 miliwn Swiss francs. Deuai cadarnhad terfynnol am gyllideb 2010 yng nghyfarfod Chwefror 2010 o’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Datganiadau ar bynciau cyhoeddus.

Pasiodd Pwyllgor Canolog CEB gyfres o ddatganiadau a chofnodion. Datganiad yw dogfen hirach a anfonir nid yn unig at eglwysi sy’n aelodau, ond eglwysi cysylltiedig ac at lywodraethau. Eisteddais ar Bwyllgor Pynciau Cyhoeddus a fu’n gweithio ar y materion hyn gydol ein hamser yng Ngenefa. Yn ychwanegol at y saith Datganiad neu gofnodion a gynhyrchwyd ar gais y Pwyllgor Gweithredol, gwnaed datganiadau a chofnodion ychwanegol ar gais llawr y Pwyllgor Canolog.

Datganiad ar y cam-ddefnydd o Ddeddf Cabledd a diogelwch lleiafrifoedd crefyddol ym Mhacistan.
Galwodd y pwyllgor ar i lywodraeth Pacistan “sicrhau hawliau pob lleiafrif crefyddol yn y wlad”. Datganodd hefyd fod Deddf Cablu Pacistan wedi dod yn “brif ffynhonell gormes ac erledigaeth” o leiafrifoedd crefyddol “sy’n byw mewn ofn a braw”.

Datganiad ar ymsefydlwyr Iddewig yn Nhiriogaeth Oregynedig y Palesteiniaid.
Galwodd y pwyllgor ar lywodraeth Israel i rewi adechrau dymchwel adeiladau yn nhiriogaeth oregynedig Palestina. Anogodd hefyd ymrwymiad i ddull di-drais a thrafodaethau heddychol, ac ail-fynegodd yr angen am boicot rhyngwladol ar nwyddau a gwasanaethau’r ymsefydlwyr.

Datganiad ar drais rhywiol yn erbyn merched yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (G.Dd.C.).
Anogodd y pwyllgor i’r eglwysi sy’n aelodau oGEB i “yn gyhoeddus gondemnio trais yn erbyn merched” yng GDdC. Anogodd pob plaid i’r gwrthdaro i roi terfyn ar bob gweithred o drais rhywiol a galwodd ar y llywodraeth “i roi diwedd ar beidio a chosbi am drais (rape) ac i ddatblygu strategaethau effeithiol i wrthsefyll trais rhywiol”.

Datganiad ar ffafriaeth wedi ei sylfaenu ar gast /dosbarth.
Galwodd y pwyllgor ar i eglwysi sy’n aelodau o CEB i “gydnabod fod y gwahaniaethu sy’n parhau a’r cau allan ar filiynau o bobl ar sail cast “ yn “sialens wirioneddol i hygrededd eu tystiolaeth o’u ffydd yn Nuw”.Ystyrir fod i fyny at 260 miliwn o bobl yn fyd-eang yn “anghyffyrddadwy” yn eu cymdeithasau eu hunain, gan wrth-ddweud y gred Gristnogol fod pawb wedi eu creu’n gyfartal ar ddelw Duw.

Datganiad ar gyllid cyfiawn ac economi bywyd.
Nododd y pwyllgor fod system gyllid y byd “wedi cyfoethogi rhai pobl ond wedi gwneud niwed i lawer mwy, gan greu tlodi, diweithdra, newyn a marwolaeth” ac “ehangu’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd”. Galwodd ar yr eglwysi sy’n aelodau i “ beidio ag encilio o’u rôl broffwydol” a chynnig “ cyfeiriad newydd” ar gyfer yr economi.

Adroddiad ar gynnydd a Datganiad ar yr argyfwng yn Darfur yng nghyd-destun Sudan.
Condemniodd y pwyllgor “y trychinebau a gyflawnwyd yn erbyn dinasyddion diniwed yn Darfur” Anogodd y llywodraeth yn Sudan “i dderbyn cyfrifoldeb llawn am ddiogelwch ei dinasyddion”. heb gyfrif eu cenedligrwydd nac unrhyw gysylltiad arall ac i “ganiatau cymorth dyngarol heb ymyrraeth i gyrraedd pawb sy’n dioddef yn Darfur”.

Datganiad ar gyfiawnder ecolegol a dyled ecolegol.
Nododd y pwyllgor fod gan Gristnogion ddyletswydd moesol i hyrwyddo cyfiawnder ecolegol. Mae’r ddyled ecolegol yn bennaf yn ddyledus gan wledydd diwydiannol y Gogledd i’r gwledydd yn y De ar sail eu hysbeilio hanesyddol a chyfredol o adnoddau, llygredd amgylchyddol a thomenu nwyon ty- gwydr a gwastraff gwenwynig.

Datganiad o obaith mewn blwyddyn o gyfle : ceisio byd rhydd o arfau niwclar.
Galwodd y pwyllgor ar eglwysi i gymryd mantais o sawl cyfle addawol yn y flwyddyn sy’n dod i argymell byd heb arfau niwclar. Galwodd ar wladwriaethau sydd gydag arfau niwclar i symud ymlaen tuag at “ddifrodiad llwyr o’u stordai arfau” gan wahodd eglwysi i gefnogi llywodraethau i greu rhanbarthau sy’n ardaloedd rhydd o arfau niwclar.

Cofnod ar gyfrifoldeb eglwysi am gymunedau sy’n dioddef trais gwrth-Gristnogol.
Rhoddodd y pwyllgor her i’r eglwysi sy’n perthyn i CEB i glywed cri pob “chwaer a brawd yng Nghrist sy’n dioddef trais, bygwth a braw” i weithredu mewn”cyd-safiad all gostio” gyda hwy ac i herio llywodraethau i amddiffyn bywydau eu dinasyddion. Nododd hefyd y dirywiad mewn rhyddid crefyddol mewn llawer rhan o’r byd a chynnydd mewn anoddefgarwch crefyddol.

Cofnod ar hawl gwrthwynebu cydwybodol i wasanaeth milwrol.
Ail-ddatganodd y pwyllgor gefnogaeth CEB i hawl i wrthwynebu cydwybodol a galwodd ar yr eglwysi i “gynnal yr hawl i wrthod cario a defnyddio arfau”, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mewn llawer man mae’r eglwysi’n cadw gwyliadwriaeth ar yr her i weithredu’r hawl hon, sy’n caniatau i’r rhai y mae eu cydwybod yn gwrthod iddynt ymhel â gwasanaeth milwrol i gymryd rhan mewn dull arall o wasanaeth.

Cofnod ar y sefyllfa a wyneba’r Eglwys Fethodistaidd yn Fiji a Rotuma.
Anogwyd yr Eglwys Fethodistaidd yn Fiji a Rotuna, gan y pwyllgor, i gychwyn trafodaeth gyda llywodraeth dros-dro Fiji. Canmolodd yr Eglwys am ei hadwaith ofalus ac ystyriol i’r gweithredoedd yn ei herbyn gan y llywodraeth dros-dro, a ddaeth i rym yn dilyn cyrch militaraidd yn Rhagfyr 2006 ac sydd wedi gwahardd rhai gweithgareddau eglwysig, gan arrestio naw gweinidog Methodistaidd.

Er bod y datganiadau a gyflwynwyd fel canlyniad i gais gan y Pwyllgor Gweithiol yn barod wedi eu trin gan staff CEB roedd llawer o waith i’w wneud arnynt. Bu’n rhaid i’r datganiadau a gyflwynwyd mewn ymateb i’r ceisiadau o’r llawr gael eu cynhyrchu o’r gwraidd. Yn ystod ein hamser yng Ngenefa roeddem i gyd yn gweithio ar un gosodiad arbennig, gan eu cyflwyno’n ôl i’r is-bwyllgor fel roedd galw ac yna yn olaf i’r Pwyllgor Canolog ei hun.

Trafodwyd dogfen sylweddol ar faterion rheolaeth gan Bwyllgor Canolog CEB, gan gynnwys ei rôl ef ei hun a’r Pwyllgor Gweithiol yn ogystal â pherthynas yr ysgrifennydd cyffredinol â’r pwyllgorau hyn ac â swyddogion a llywyddion CEB. Datganodd y ddogfen fod angen am reolaeth effeithiol, ystwyth wedi’i chanolbwyntio ar weledigaeth. Cyfeiriodd hefyd at faterion atebolrwydd a pholisi staff.

 

Ffarwel i Samuel Kobia.

Tra bo Kobia yn parhau’n ysgrifennydd cyffredinol CEB drwy ddiwedd 2009, ffarweliodd y Pwyllgor Canolog ag ef a’i wraig Ruth mewn gwasanaeth o weddi yn y Ganolfan Ecwmenaidd a dathliad yn y Sefydliad Ecwmenaidd yn Bossey, ger Genefa. Roedd i’r gwasanaeth a’r dathliad flas rhyngwladol amlwg gyda chaneuon o nifer o ddiwylliannau, ac ieithoedd o Aramaeg i Swahili.

 

Sarah A. Rogers

Eglwys yng Nghymru

Aelod o’r Pwyllgor Canolog.

 

 
 
 
 

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: "Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited"
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071