Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru

Cofnodion Comisiwn Hafan  Saesneg / English

Yng nghyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, comisiynwyd a phenodwyd Llywydd newydd.   Cymerodd y Parchedig Martin Spain y swydd drosodd oddi wrth y Parchedig Cram, gan greu dwy garreg filltir arwyddocaol yn hanes y Cyngor. 

Y Parch Cram oedd y wraig gyntaf i fod yn Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a bu yn y swydd o 2004 tan 2007.  Gweinidog y Methodistiaid yng Nghlydach ger Abertawe yw Pam, ac mae wedi rhoi yn hael oii hamser a'i llafur wrth arwain y Cyngor yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

Wrth iddi drosglwyddo'r awenau i'r Parchedig Spain, dyma'r tro cyntaf hefyd i'r Cyngor benodi Llywydd o un o enwadau lleiaf Cymru, sydd hefyd yn Saesneg ei iaith.   Mae Martin yn Weinidog gyda'r Annibynwyr Saesneg yng Ngorllewin Cymru.  Er iddo gael ei hyfforddi gan yr Annibynwyr Cymraeg, cafodd ei ordeinio gan Eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Rhydaman, a gyda'r enwad hwnnw y mae wedi gwasanaethu trwy gydol ei weinidogaeth.  Mae Martin hefyd yn gwasanaethu fel swyddog heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys.

Wrth ddiolch i Pam am ei hymdrechion, cyfeiriodd Martin at unigrywiaeth yr achlysur.  Crybwyllodd hefyd ei ddymuniad i barhau â'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu cyngor eang ei orwelion sy'n medru cydweithio â'i holl bartneriaid yng Nghymru, yn enwedig Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru), tra'i fod hefyd yn cynnal annibyniaeth yr Eglwysi Rhyddion.

Mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru yn cynnwys y Methodistiaid, y Presbyteriaid, y Bedyddwyr, Byddin yr Iachawdwriaeth, yr Annibynwyr Saesneg a'r Annibynwyr Cymreig, ac mae'n agored i eglwysi anghydffurfiol eraill.   Mae'r Llywydd yn cynrychioli'r holl enwadau mewn digwyddiadau Cenedlaethol. 

Mae'r lluniau yn dangos y Parchedig Cram yn cyflawni'r gwasanaeth comisiynu a'r Parchedig Spain yn traddodi ei araith gyntaf wrth dderbyn y swydd.