Gwylnos Casnewydd 2009

Cytûn

Eglwysi Ynghyd Yng Nghymru

 

 
Newyddion
Rhaglen Waith Gyfredol
Cefnogi'r Lleol a'r Rhanbarthol
Er Mwyn i'r Byd Gredu - Gwaith Diweddar Cytûn

Ffydd, Trefn a Thystiolaeth

Eglwys a Chymdeithas Rhyng-Ffydd Hafan English

Gwaith Cytûn

Mae Cytûn, fel y mae’n sefyll nawr, yn lle prysur, gyda'r eglwysi a’r enwadau sy’n aelodau, llywodraeth, y trydydd sector, y wasg a’r cyfryngau yn cysylltu bron yn ddyddiol, yn ogystal â chymunedau ffydd ac eglwysi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn edrych at offeryn eciwmenaidd cenedlaethol Cymru ar gyfer: erthyglau ysgrifenedig, cyngor, sylwadau a chymorth fel sianel er mwyn cael mynediad at yr eglwysi. Mae’r tîm staff hefyd yn ceisio cefnogi gweithgareddau a digwyddiadau arwyddocaol a drefnir gan yr enwadau a’r eglwysi sy’n aelodau, a gweithredu fel arwyddion o symudiad cynyddol tuag at fwy o undod  ar eu rhan nhw wrth iddyn nhw weithredu ar wahân ar eu menter eu hunain, neu gyda’i gilydd.